Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 4 Mai 2022
Amser:
09.30 -
12.26
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12821
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Noel Mooney, Football Association Wales Aled Lewis, Football Association Wales Trust Leshia Hawkins, Cricket Wales Mojeid Ilyas, Cricket Wales Geraint John, Undeb Rygbi Cymru Chris Munro, Undeb Rygbi Cymru Fergus Feeney, Swim Wales Hannah Guise, Swim Wales Phil John, Basketball Wales Victoria Ward, Cymdeithas Chwaraeon Cymru Matthew Williams, Cymdeithas Chwaraeon Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Rhun Davies (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.5 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS.
2 Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag undebau chwaraeon (1)
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Criced Cymru, ac Undeb Rygbi Cymru.
2.2 Cytunodd y tri sefydliad i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â chyllid.
3 Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag undebau chwaraeon (2)
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Nofio Cymru a Phêl-fasged Cymru.
3.2 Cytunodd Pêl-fasged Cymru i rannu ymchwil y mae wedi'i chomisiynu i faterion trafnidiaeth a hygyrchedd.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Nofio Cymru a Phêl-fasged Cymru gydag unrhyw gwestiynau nas cyrhaeddwyd.
4 Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Chwaraeon Cymru
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cymdeithas Chwaraeon Cymru.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Ôl-drafodaeth breifat
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Blaenraglen waith
8.1 Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer haf a hydref 2022.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y papur cwmpasu ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol i gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol.
8.3 Nododd y Pwyllgor y trefniadau ar gyfer ei ymweliad â gogledd Cymru ar 19 a 20 Mai 2022.
9 Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc Trafod yr ohebiaeth ddrafft
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth y DU, a chytunwyd i drafod y drafft ymhellach a chytuno arno y tu allan i'r cyfarfod hwn.